‘Deuparth gwaith ei ddechrau’
Hafan > Amdanom Ni
Cyrraedd y safonau uchaf posibl mewn ysgol weithgar, ofalgar, hapus a Chymreig lle y dangosir parch at blant a phobl, gan roi iddynt oll gyfle teg i ddatblygu i’w llawn botensial.
Creu awyrgylch hapus a diogel o fewn yr ysgol.
icrhau fod pob plentyn yn cael cyfle i ddatblygu'n gymdeithasol, emosiynol ac addysgol.
Datblygu diwylliant Cymreig y disgyblion.
Cyflwyno'r gwerthoedd gorau a'r safonau uchaf posib i'r plant.
Galluogi plant i wahaniaethu rhwng y drwg a'r da.
Rhoi’r cyfleoedd i'r plant gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau addysgol ac allgyrsiol.
Sicrhau fod pob plentyn yn ddwyieithog erbyn iddo ef/hi adael yr ysgol.
Hybu caredigrwydd a chwrteisi ymhlith y plant.
Creu perthynas dda rhwng yr ysgol a'r rhieni a'r gymuned.
Creu dinasyddion a fydd yn y dyfodol yn barod i ysgwyddo cyfrifoldebau.
Gwneud addysg yn brofiad gwerthfawr a chofiadwy ac yn bleser llwyr i bob dysgwr.
Yn yr adran yma: