‘Deuparth gwaith ei ddechrau’
Mae’r criw'r Siarter Iaith yn monitro’r cyfleoedd a ddarparwyd ar lawr y dosbarth a thu hwnt yn wythnosol er mwyn galluogi dysgwyr i gyrraedd eu llanw potensial yn y Gymraeg. Maent hefyd yn trefnu a chynnal gweithgareddau i hyrwyddo’r Gymraeg a Chymreictod drwy’r ysgol gyfan .
Mae’r criw Cyngor Lles yn fonitro’r anghenion lles dysgwyr yr ysgol. Maent yn trefnu a chynnal gweithgareddau lles gan holi barn dysgwyr yr ysgol am y pethau a fyddai o fudd iddynt ar gyfer eu lles corfforol ac emosiynol.
Cyfrifoldeb y cyngor hwn yw trefnu a chynnal gweithgareddau chwaraeon gan gynnwys Mabolgampau’r ysgol.
Mae aelodau’r cyngor digidol yn monitro a gofalu am adnoddau digidol yr ysgol. Sicrhau fod dyfeisiau yn gweithio’n effeithiol a hefyd yn cymryd cyfrifoldeb dros brosesau technolegol yn ystod y diwrnod ysgol.
Prif gyfrifoldebau’r Cyngor Eco yw sicrhau ein bod yn gweithredu fel ysgol sydd yn gofalu am yr amgylchedd ac yn hyrwyddo cyfrifoldeb pawb o fewn yr ysgol i ofalu am ein byd. Bydd cyfleoedd i’r Cyngor drefnu gweithgareddau i hyrwyddo ail-gylchu, arbed egni a dŵr.
Prif gyfrifoldebau’r cyngor hwn yw hyrwyddo gofynion y cwricwlwm, trefnu gweithgareddau i ddatblygu cwricwlwm Ysgol Bod Alaw fel ei fod yn berthnasol ac yn cipio diddordeb ein dysgwyr yng nghyd-destun Cwricwlwm i Gymru.